Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays

Croeso i Fforwm Caernarfon Ddoe. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hanes y Dref postiwch yma a fe fyddwn yn hapus i geisio eich ateb. Os da chi yn teimlo fedrwch helpu gyda unrhyw gwestiwn fydd eich cyfraniad yn groesawus dros ben. Atebir y cwestiynnau yn y Saesneg neu yn y Gymraeg ac yn yr iaith y gofynnir y cwestiwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn hanes teuluol, postiwch nhw yn yr adran penodol a fe fydd Keith yn hapus i geisio eich ateb.

Welcome to the Caernarfon's Yesterdays Forum. If you have a question about any aspect of the town's history please post it here and we will be happy to try and assist. If you feel you can help with any question then please feel free to contribute. Questions will be answered in English or in Welsh and in the language in which the question is asked.

If you have any brief family history questions, please post them in the dedicated area and Keith will try and answer them for you.

Segontium Searchers

If you wish to employ our research service then email enquiries@segontium.com for an informal discussion about your needs.


Hanes Tref Caernarfon/Caernarfon Town History
Start a New Topic 
Author
Comment
Ty

Annwyl Meirion, Da chi di clwad am Segontium House, Caernarfon ?

Re: Ty

Hi Geraint,

Rwyf fel pe bawn yn cofio mai ty ar gyfer gofalwr Amgueddfa Segontium oedd Segontium House. Pan oeddwn i yn glerc bach yn Swyddfa Clerc y Dre yn 1944 cyflogwyd hen filwr o'r enw Jack(?) LLOYD a gollodd ei goes yn y Rhyfel Byd 1 i wneud gwaith ysgrifennu dogfennau mewn "Copperplate writing". Y fo a'i wraig oedd yn gofalu am yr amgueddfa ac yn byw yn y ty.

Roedd yn dipyn o gymeriad ac yn hoff o'i beint, ond wedi gwisgo yn dda bob amser.

Gobeithio bod hyn yn helpu.

Cofion,

Meirion

Re: Ty

Mae David Thomas Lake, Merchant, Segontium House ar XD2/6604 (lease )

Wrth chwilio amdano yn census 1901 mae' r tai yn mynd


24 Segontium Terr
23 Segontium Terr
22 Segontium Terr
41 New Street David Thomas Lake
Brynafon
21 Segontium Terr

Felly mae'n edrach fod Segontium House ar gongl Segontium Terrace a New Street.(A Brynafon ar y gongl arall?)
Yn anfortunus tydi google street ddim wedi bod fordd yna felly rhaid cael shanks pony amdani i gael golwg.

Re: Ty

Diolch yn fawr am yr esboniad. Mae Mervyn Hugheston-Roberts, Geraint a chwithau wedi dod i'r un canlyniad sef mai y ty union ar draws y ffordd o Swyddfa Hughes Jones a Dyson oedd Segontium House