Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays

Croeso i Fforwm Caernarfon Ddoe. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hanes y Dref postiwch yma a fe fyddwn yn hapus i geisio eich ateb. Os da chi yn teimlo fedrwch helpu gyda unrhyw gwestiwn fydd eich cyfraniad yn groesawus dros ben. Atebir y cwestiynnau yn y Saesneg neu yn y Gymraeg ac yn yr iaith y gofynnir y cwestiwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn hanes teuluol, postiwch nhw yn yr adran penodol a fe fydd Keith yn hapus i geisio eich ateb.

Welcome to the Caernarfon's Yesterdays Forum. If you have a question about any aspect of the town's history please post it here and we will be happy to try and assist. If you feel you can help with any question then please feel free to contribute. Questions will be answered in English or in Welsh and in the language in which the question is asked.

If you have any brief family history questions, please post them in the dedicated area and Keith will try and answer them for you.

Segontium Searchers

If you wish to employ our research service then email enquiries@segontium.com for an informal discussion about your needs.


Hanes Tref Caernarfon/Caernarfon Town History
Start a New Topic 
Author
Comment
View Entire Thread
Re: olga patricia hilton parry

Hi Aled,

Olga oedd yr hynaf o 3 o blant Dr. a Mrs. Hilton Parry, Stryd y Castell, Caernarfon. Roedd ganddi chwaer, Elizabeth (?) rhyw ddwy flynedd yn iau a brawd a elwid yn Billy oedd y plentyn fenga.

Credir iddi fod mewn ysgol fonedd cyn i'r rhyfel dorri allan yn 1939 ac iddi ddod adre a chychwyn yn yr Ysgol Ramadeg (fel y'i gelwid bryd hynny)a chael ei gosod yn nosbarth 2A, ymysg y rhai roedd ei chwaer a minnau.

Gan fod Olga yn cyrraedd oed gadael yr ysgol ynghynt na'r gweddill ohonom fe aeth i Lundain i gael ei hyfforddi i fod yn Queens Nurse ac mewn cyrch fomio ar yr ysbyty gan y gelyn lladdwyd Olga a chofiaf ddeall bryd hynny mai y ffrwydrad neu y "blast" a'i lladdodd ac nad oedd farc ar ei chorff. Dyna a ddywedwyd ar y pryd, fodd bynnag, ond nid oes gennyf brawf o hynny.

Re: olga patricia hilton parry

Aled

Rhag ofn nad oeddech wedi ei cael dyma beth sydd ar y Commonwealth War Graves Commission. Efaillai fydd y dyddiad o gymorth i ffendio dipyn mwy yn y papurau.


Name: PARRY, OLGA PATRICIA HILTON
Initials: O P H
Nationality: United Kingdom
Rank: Civilian
Regiment/Service: Civilian War Dead
Age: 18
Date of Death: 17/06/1944
Additional information: Probationer Nurse. Daughter of Doctor W. Hilton Parry, M.C., J.P., and Mrs. Hilton Parry, of Ty Newydd, Castle Street, Caernarvon. Died at St. Mary Abbot's Hospital.
Casualty Type: Civilian War Dead
Reporting Authority: KENSINGTON, METROPOLITAN BOROUGH


'Roedd ei thad yn arwr o'r Rhyfel cyntaf. Aeth allan yn Medi 1914. Dyma sut y disgrifiodd sefydlu hospital yn Ffrainc.
“Arrived at our destination and looking round for a building for our hospital we found a vacant hotel and a casino full of furniture and gambling tables. At 10.30 am we had orders to prepare for 300 beds by 3.30 pm. By noon the wounded were arriving and by next morning we had accommodated 500 wounded in a perfect hospital for our work. Though some of the shrapnel wounds are terrible the men are being plucky and stand tons of pain without a murmur. By this you will have realized the tremendous size of the war and how important it is that every able bodied man should join as soon as they possibly can.”

Yn 1918 fe gafodd y Military Cross am
"For conspicuous gallantry and devotion to duty when in command of a bearer division. He led his bearer squads through shellfire with great fearlessness and devotion, in order to collect the wounded, and worked without a rest for thirty-six hours, dressing and evacuating wounded from the front line under the most trying conditions."

'Roedd Robert Parry tad Dr William Hilton Parry hefyd yn feddyg.
Hywyn