Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays

Croeso i Fforwm Caernarfon Ddoe. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hanes y Dref postiwch yma a fe fyddwn yn hapus i geisio eich ateb. Os da chi yn teimlo fedrwch helpu gyda unrhyw gwestiwn fydd eich cyfraniad yn groesawus dros ben. Atebir y cwestiynnau yn y Saesneg neu yn y Gymraeg ac yn yr iaith y gofynnir y cwestiwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn hanes teuluol, postiwch nhw yn yr adran penodol a fe fydd Keith yn hapus i geisio eich ateb.

Welcome to the Caernarfon's Yesterdays Forum. If you have a question about any aspect of the town's history please post it here and we will be happy to try and assist. If you feel you can help with any question then please feel free to contribute. Questions will be answered in English or in Welsh and in the language in which the question is asked.

If you have any brief family history questions, please post them in the dedicated area and Keith will try and answer them for you.

Segontium Searchers

If you wish to employ our research service then email enquiries@segontium.com for an informal discussion about your needs.


Hanes Tref Caernarfon/Caernarfon Town History
Start a New Topic 
Author
Comment
Fy hen daid

Byddwn yn falch iawn os oes gan rhywyn ryw wybodaeth am fy hen daid, Hugh Hughes. Y cwbl a wn i yw ei fod yn blastrwr wedi ei eni yn Llangollen tua 1858 ac ei fod yn byw yn Hendref Street yng Nhaernarfon yn 1891 ac yn Rae's Court??? yn 1901. Yn ol storiau fy nhad,'roedd yn blastrwr heb ei ail ond yn ffond o'i gwrw! Roedd ei fab, William Hughes yn fwtsiar gyda'i siop ei hyn yn Bontnewydd ond yn y chwedegau bu'n gweithio y siop Isaac Parry yn y Dref. 'Rwy'n methu'n glir a chael hanes Hugh cyn iddo ddod i Gaernarfon. Mae yn Census 1871 fel "lodger" yn Mark Lane. 'Rwy'n credu ei fod yn cael ei admnabod fel "Huw Llangollen"
Byddai unyw wybodaeth yn help mawr.

Re: Fy hen daid

Annwyl Nia,

Er fy mod yn hogyn o'r dref erioed ac a aned yma yn 1928, ofnaf na allaf eich helpu gyda'r teulu hwn. Ni chofiaf imi ychwaith glywed yr enw Huw Llangollen, ond gan ichi ddweud bod ei fab William Hughes wedi bod yn gweithio yn Siop Isaac Parry, efallai y byddai mab y diweddar William Parry a oedd yn cadw'r siop yn y tridegau yn gwybod hanes William Hughes.

Cyfeirio rydwyf at Dr. Gwyn Parry, Meddyg Teulu wedi ymddeol ym Mhenygroes. Yn anffodus nid oes gennyf na'i gyfeiriad yno na'i rif ffon, er bod yr olaf yn debygol o fod yn y llyfr rhifau ffon.

Drwg gennyf na allaf fod o fwy o help na hynny.

Cofion,

T Meirion Hughes