Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays

Croeso i Fforwm Caernarfon Ddoe. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hanes y Dref postiwch yma a fe fyddwn yn hapus i geisio eich ateb. Os da chi yn teimlo fedrwch helpu gyda unrhyw gwestiwn fydd eich cyfraniad yn groesawus dros ben. Atebir y cwestiynnau yn y Saesneg neu yn y Gymraeg ac yn yr iaith y gofynnir y cwestiwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn hanes teuluol, postiwch nhw yn yr adran penodol a fe fydd Keith yn hapus i geisio eich ateb.

Welcome to the Caernarfon's Yesterdays Forum. If you have a question about any aspect of the town's history please post it here and we will be happy to try and assist. If you feel you can help with any question then please feel free to contribute. Questions will be answered in English or in Welsh and in the language in which the question is asked.

If you have any brief family history questions, please post them in the dedicated area and Keith will try and answer them for you.

Segontium Searchers

If you wish to employ our research service then email enquiries@segontium.com for an informal discussion about your needs.


Hanes Teuluol/Family History
Start a New Topic 
Author
Comment
Tharsis Villa , Caernarfon a Tharsis Copper and Sulphate Company

Chwilio am hanes tad/taid William Hughes, maer Caernarfon yn y 50-60au. Ei enw oedd Robert Hughes ganed Llanbeblig c 1846. Bu yn gweithio i gwmni copr a sulphur Tharsis yn Spaen am beth bynnag bymtheng mlynedd. Mae ei enw i gael ar restr o weithwyr tramor yn gweithio yno yn 1887. Sut ddaru o gael gwaith yn Sbaen? Roedd ganddo ef a'i wraig Jane blant, dau wedi marw erbyn 1874; William a aned 1866 Llanrug; Jackie/John Hughes a aned yn Sbaen 1879 ond bu farw yn Glasgow 1891; a Hugh Hughes ganed 1869, a bu farw yn y Transvaal mewn damwain yn 1913. Roedd Hugh wedi ei benodi yn 'mining engineer' yn 1893 yn Neheudir Affrica. Dywed papur newydd fod ei gydweithwyr y Linlithgo wedi ei anrhegu ar ei ymadawiad. Mae'n debyg ei fod yntau yn gweithio i gwmni Tharsis Copper and Sulphur.
Bu Robert Hughes a'i wraig yn byw yn Tharsis Villa, Llanbeblig Road, Caernarfon.
A oes rhywun o'r teulu yn fyw heddiw?

Re: Tharsis Villa , Caernarfon a Tharsis Copper and Sulphate Company

Annwyl Llinos,

Nid yw yn arferiad gennyf ateb cwestiynnau ar Hanes Teulu, ond fe wnaf eithriad yn eich hachos chi.
Gwnaf hynny ar sail eich cwestiwn olaf sy'n holi a oes bosib' cysylltu ag aelodau o'r teulu sy'n fyw heddiw.

Rwyn credu bod. Roedd gan William Hughes (Willie Hughes, Sbaen i lawer yng Nghaernarfon) ferch o'r enw Mair a oedd yn yr Ysgol Sir yng Nghaernarfon (Syr Hugh heddiw)ar unwaith a mi, ond flwyddyn neu ddwy yn hyn na mi. Fe'i ganed hi tua 1925 ac phriododd gyda dyn o'r enw WALSH, perchennog Compact Factory yng Nghaerarfon (lle mae Maes Parcio y Cyngor Sir heddiw a nesaf at yr Archifdy). Cawsant un mab TIMOTHY pan oedd Mair yn 36 oed (c 1961) ac mae gennyf le ei feddwl ei fod yn dal i fyw rhywle yn y cyffiniau. Roedd cyd athrawes gyda Mair yn Ysgol Brynrefail (Mrs. Pat Twyrould) yn dweud ei bod wedi ei gyfarfod mewn priodas rai blynyddoedd yn ol.

Dyna'r cyfan, ond gobeithio y gall fod o gymorth ichi.

T MEIRION HUGHES

Hanesydd Lleol Tre Caernarfon

Re: Tharsis Villa , Caernarfon a Tharsis Copper and Sulphate Company

Diolch yn fawr iawn! Mae pob briwsionyn o wybodaeth yn werthfawr iawn.
Llinos