Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays

Croeso i Fforwm Caernarfon Ddoe. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hanes y Dref postiwch yma a fe fyddwn yn hapus i geisio eich ateb. Os da chi yn teimlo fedrwch helpu gyda unrhyw gwestiwn fydd eich cyfraniad yn groesawus dros ben. Atebir y cwestiynnau yn y Saesneg neu yn y Gymraeg ac yn yr iaith y gofynnir y cwestiwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn hanes teuluol, postiwch nhw yn yr adran penodol a fe fydd Keith yn hapus i geisio eich ateb.

Welcome to the Caernarfon's Yesterdays Forum. If you have a question about any aspect of the town's history please post it here and we will be happy to try and assist. If you feel you can help with any question then please feel free to contribute. Questions will be answered in English or in Welsh and in the language in which the question is asked.

If you have any brief family history questions, please post them in the dedicated area and Keith will try and answer them for you.

Segontium Searchers

If you wish to employ our research service then email enquiries@segontium.com for an informal discussion about your needs.


Hanes Teuluol/Family History
Start a New Topic 
Author
Comment
Genedigaethau Wesleaidd yng Nghaernarfon

Ers tro, yr wyf wedi bod yn ceisio chwilio am gofnod geni fy h-h-nain, o'r enw Catherine Owen(s). Gwn mai John Owen oedd enw'r tad, ac mai 'Publican ' oedd o yn ol y tystysgrif priodas .Cafodd ei geni tua 1825/6, naill ai yn Llanbeblig neu Llanwnda (cofnodir y ddau mewn censuses gwahanol) . Cefais wybodaeth yn ddiweddar fod ei gwr yn dod o deulu Wesleaidd , felly tybed ai mewn capel Wesla y cafodd hi ei hun ei bedyddio ? . A oes cofnodion geni arwahan ar gyfer unrhyw gapel Wesla yn yr ardal ? Diolch

Re: Genedigaethau Wesleaidd yng Nghaernarfon

Diolch ichi am eich ymholiad parthed cofrestru bedyddiadau mewn capeli Wesle yng nghylch Caernarfon.

Er nad ystyrriaf fy hun yn awdurdod yn y maes hwn, mentraf awgrymu y ffordd orau o geisio datrys y broblem. Yr hyn a'm tarrodd i yw blwydddyn geni Catherine Owen(s) a'i gwr, sef 1825/26. 1826 oedd dyddiad adeiladu Capel Ebeneser, Caernarfon, a diau bod gan y capel ei archifau ei hun a'r hyn fuaswn i yn ei wneud yw cysylltu gyda'r gweinidog presennol Y Parch Gwynfor Williams i ofyn a all ef fod o gymorth ichi.

Diau y gallai hefyd enwi y capeli eraill o'r enwad a oedd ynghylch Plwyf Llanwnda a beth ddigwyddodd i'w archifau nhw. Mae llawer iawn o recordiau capeli wedi cau yn y Llyfrgell Genedlaethol yn Aberystwyth.

Pob hwyl ichi a'r eich gwaith ymchwil a Nadolig Llawen.

Cofion,

T Meirion Hughes
Hanesydd Lleol Tref Caernarfon