Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays

Croeso i Fforwm Caernarfon Ddoe. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hanes y Dref postiwch yma a fe fyddwn yn hapus i geisio eich ateb. Os da chi yn teimlo fedrwch helpu gyda unrhyw gwestiwn fydd eich cyfraniad yn groesawus dros ben. Atebir y cwestiynnau yn y Saesneg neu yn y Gymraeg ac yn yr iaith y gofynnir y cwestiwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn hanes teuluol, postiwch nhw yn yr adran penodol a fe fydd Keith yn hapus i geisio eich ateb.

Welcome to the Caernarfon's Yesterdays Forum. If you have a question about any aspect of the town's history please post it here and we will be happy to try and assist. If you feel you can help with any question then please feel free to contribute. Questions will be answered in English or in Welsh and in the language in which the question is asked.

If you have any brief family history questions, please post them in the dedicated area and Keith will try and answer them for you.

Segontium Searchers

If you wish to employ our research service then email enquiries@segontium.com for an informal discussion about your needs.


Hanes Teuluol/Family History
Start a New Topic 
Author
Comment
Edward Foulkes ( Iorwerth Glan Peris) of Gaernarfon

Wrth edrych ar yr ysgrifau coffa , fe wnes ddod ar draws un gweddw'r gwr yma , gwraig o'r enw Mrs Margaret Foulkes. O edrych wedyn ar censws 1871 , mae'n dweud iddo gael ei eni yn Llanddeiniolen yn 1839 . Tydw i ddim yn meddwl fod y dyddiad geni'n iawn , ond ni allaf gael hyd i unrhyw son amdano yn unrhyw gyfrifiad arall.
Mae'n ymddangos ei fod ddipyn o fardd hefyd , gyda'r enw barddonol, ac mi roedd o'n gynghorydd tref hefyd .
A oes unrhyw wybodaeth arall arno yn rhywle, ogdd ?
Rhedeg 'drapery' oedd o , mae'n ymddangos.

Re: Edward Foulkes ( Iorwerth Glan Peris) of Gaernarfon

Annwyl Huw,

Diolch ichi am anfon cwestiwn i’r Fforwm parthed yr uchod, ond ofnaf mai ychydig o gymorth alla’ i fod ichi.

Edrychais ar y Street Directories a chanfod y canlynol:

1871 Mrs. Foulkes, Carnarvon Drapery Establishment, 1 Turf Square and 2 Eastgate Street.

1874 Edward Foulkes, Carnarvon Drapery Establishment, 1 Turf Square and 2 Eastgate Street.

1876) Mrs.Foulkes) Carnarvon Drapery Establishment, 1 Turf Square and 2 Eastgate Street.

1878) Carnarvon Drapery Establishment, 1 Turf Square and 2 Eastgate Street.

1886 Margaret Foulkes, 31, High Street. (London House arferid ei galw yn y 1940/50au, Siop Pethau Da ar y gornel lle mae Siop yr Air Ambulance heddiw).

Blwyddyn a man geni Edward – 1839, Llanddeiniolen. Os cafodd ei eni ar ol 1837 fe ddylai fod ar y Births, Marriages & Deaths.

Wn i ddim am ei hanes fel bardd ond efallai bod yna awgrym yn ei ffugenw Glan Peris. Nawr mae hyn yn awgrymu i mi mai ar yr ochr bellaf i Bont Penllyn yr oedd o’n byw oherwydd mae plwyfi Llanddeiniolen a Llanrug yn cyfarfod ar ganol y bont.

Re: Edward Foulkes ( Iorwerth Glan Peris) of Gaernarfon

Huw,

Rwyf wedi cael golwg sydyn, ac fel rydych yn ddweud, does na ddim son am Edward Foulkes ar ddim cyfrifiad heblaw 1871 i fi weld.

Ganed Margaret Baugh Owen yn 1829, merch i Richard Owen, Draper o Bont Bridd. Priododd Edward Williams, Draper arall, yn Llanbeblig yn 1857. Ganed un ferch iddynt - Jane Mary yn 1859. Mae'r teulu ar y cyfrifiad 1861 yn Eastgate Street. Fe fu Edward Williams farw ar y 20fed o Dachwedd 1866.

Rwyf wedi methu cael hyd i briodas rhwng Edward Foulkes a Margaret, ond fel y dywedais, dim ond golwg sydyn rywf wedi gael.

Os da chi a diddordeb mewn chwilio ym mhellach rwyf yn darparu gwasanaeth ymchwil, a fedrwch gysylltu a fi ar enquiries@segontium.com

Keith.

Re: Edward Foulkes ( Iorwerth Glan Peris) of Gaernarfon

Diolch - fe geisiaf gael golwg ar MIs Llanbeblig rhywbryd i weld os oes rhyw wybodaeth ynddynt.