Caernarfon Ddoe/Caernarfon's Yesterdays

Croeso i Fforwm Caernarfon Ddoe. Os oes gennych unrhyw gwestiwn am hanes y Dref postiwch yma a fe fyddwn yn hapus i geisio eich ateb. Os da chi yn teimlo fedrwch helpu gyda unrhyw gwestiwn fydd eich cyfraniad yn groesawus dros ben. Atebir y cwestiynnau yn y Saesneg neu yn y Gymraeg ac yn yr iaith y gofynnir y cwestiwn.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn hanes teuluol, postiwch nhw yn yr adran penodol a fe fydd Keith yn hapus i geisio eich ateb.

Welcome to the Caernarfon's Yesterdays Forum. If you have a question about any aspect of the town's history please post it here and we will be happy to try and assist. If you feel you can help with any question then please feel free to contribute. Questions will be answered in English or in Welsh and in the language in which the question is asked.

If you have any brief family history questions, please post them in the dedicated area and Keith will try and answer them for you.

Segontium Searchers

If you wish to employ our research service then email enquiries@segontium.com for an informal discussion about your needs.


Hanes Teuluol/Family History
Start a New Topic 
Author
Comment
John Pritchard Jones(Cigydd) ganwyd 1813

Hoffwn weld os oes tystiolaeth i'r gwr yma a'i delu fod yn fyw ar ol 1851 (yn fras). Yr oedd yn gigydd yn Market Street, gyda'i wraig Margaret (g tua 1816 Llanberis/Llanddeiniolen) a'i blant Elin (g 1834), Esther (1842) a Richard (1845). Bu oddeutud 4 o blant eraill farw'n ifanc.
Mae gwr arall o'r un enw a'r un oedran yn marw yn Chapel Strret yn 1893, ond ni chredaf mai fo ydi o. Yr wyf yn dechrau amau i'r teulu fudo, ond hoffwn gael bar arall o lygaid un tro olaf, ogdd.

Re: John Pritchard Jones(Cigydd) ganwyd 1813

Hi Huw,

Dwi wedi cael golwg sydyn, ond fedrai ddim gweld dim son o'r teulu yn nunlle ar ol 1851, heblaw am gyfeiriad i John fel cigydd yn Slater 1853.

Dwi wedi edrych ar gyfrifiadau America hefyd, ond dim lwc!

Mae John Pritchard Jones, Chapel Street, yn ymddangos ar gyfrifiad 1891, ond tydi hwn ddim i weld fel yr un dyn. Mae'n cael ei ddisgrifio fel "Painter, Glazier, & Plumber."

Mae yna ddau farwolaeth John Pritchard Jones yn y mynegai marw sydd yn werth cael golwg agos arnynt - un yng Nghaernarfon ym 1864 ac yr ail ym Mangor ym 1865. Yn anffodus tydi'r mynegai ddim yn dangos oed yr ymadawedig ar y pryd.

Cofion,

Keith.

Re: John Pritchard Jones(Cigydd) ganwyd 1813

Popeth yn iawn - cefais wybod bellach ei fod wedi ymfudo i Awstralia, a marw yno yn 1875. Diolch yn fawr.